Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) | The Draft Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill

 

ALN 16

Ymateb gan : Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Response from : Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

 

 

Beth yw eich barn ar y Bil drafft? Amlinellwch isod unrhyw bryderon sydd gennych, neu feysydd y credwch y dylai’r Pwyllgor archwilio ymhellach cyn i’r Bil gael ei gyflwyno yn ffurfiol.

 

Yn gyffredinol, croesawn y Bil a’i ddarpariaethau’n fawr; credwn fod potensial gwirioneddol yma i wella’r gyfundrefn ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol o bob math, a’u teuluoedd.

Canolbwyntiwn yma ar ein prif bryderon, a’r meysydd y credwn y dylai’r Pwyllgor ymchwilio iddynt, a chodi gyda’r Llywodraeth.

Gwyddom nad yw’r Cod ADY drafft yn rhan swyddogol o’r ymgynghoriad; fodd bynnag, gan ei fod yn ymhelaethu ar fwriadau’r Llywodraeth, rydym yn cynnwys sylwadau am y Cod yn ogystal ag am y Bil drafft ei hun.

1)  Lefel y cyfrifoldeb ar ysgolion

Yn sgil dileu Datganiadau, mae’n ymddangos bod cryn dipyn o gyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo o Awdurdodau Lleol i ysgolion unigol, o ran gwneud penderfyniadau (determinations) ac o ran llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol.

Mae cyfrifoldeb sylweddol gan ysgolion ar hyn o bryd, ond o leiaf yn yr achosion hynny ble mae gan blentyn datganiad, mae’n glir mai’r Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth.

Dan y drefn newydd, mae’n bosib y bydd y trothwy ar gyfer pryd fydd y cyfrifoldeb yn pasio o lefel ysgol i lefel Awdurdod Lleol yn uwch – sef dim ond pan fydd (a) penderfynu ar y mater y tu hwnt i allu’r ysgol (b) anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc yn galw am ddarpariaeth na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau.

Os yw’r dadansoddiad hwn yn gywir, mae angen cydnabod hynny, a chynllunio ar gyfer y sgil-effeithiau yn arbennig felly yn nhermau:

·         neilltuo adnoddau cyllidebol digonol

·         sicrhau lefelau staffio digonol

·         darparu lefel priodol ac amserol o ran hyfforddiant (i gyrff llywodraethu, arweinwyr ysgol, cydlynwyr ADY, athrawon a chynorthwywyr dysgu)

·         sicrhau bod cyngor arbenigol amserol ar gael i ysgolion

Mae’r straen ar ysgolion bach, ble mae lefelau staffio’n isel iawn – ond eto ble mae’r ganran o blant ag ADY yn gallu bod yn uchel - yn debygol o fod yn sylweddol iawn.

Nid yw’r rhain yn faterion y disgwylid eu gweld ar wyneb y Mesur, ond byddem yn disgwyl gweld cyfeiriadau yn y Cod, ac o bosib yn y Memorandwm Esboniadol.

2)  Lefel y cyfrifoldeb a’r llwyth gwaith i’r Cydlynydd ADY

Croesawn y ffaith bod disgrifiad o rôl a chyfrifoldebau’r  Cydlynydd yn y Cod drafft, a chytunwn yn llwyr y dylai’r Cydlynydd fod yn aelod o’r Uwch Dîm Rheoli.

Mae’n edrych yn glir o ddarllen y disgrifiad o’r rôl a’r cyfrifoldebau mai swydd llawn amser yw hon. Anodd iawn yw ceisio dychmygu ymgymryd â dyletswyddau o’r fath ochr yn ochr ag amserlen dysgu a hynny yn sgil y llwyth gwaith sylweddol iawn (gan gynnwys materion rheolaethol), y lefel o arbenigedd sydd ei angen, a’r angen am hyblygrwydd o ran amser i allu cwrdd ag amrywiaeth o randdeiliaid yn ystod y diwrnod gwaith. Credwn y dylid datgan hynny’n glir yn y Cod.

Yn yr achosion hynny ble nad yw’n ymarferol i apwyntio un person llawn amser, er enghraifft, mewn ysgolion bach, credwn y dylid nodi’r posibilrwydd o benodi Cydlynydd ADY llawn amser ar gyfer clwstwr o ysgolion. Mae cymaint o ysgolion bach yn system addysg Cymru, ni chredwn ei fod yn briodol i’r Cod aros yn fud ar y mater.

Mae’n gwestiwn gennym a yw geiriad y Bil Drafft yn caniatáu cyd-benodi o’r fath am fod Adran 46(2) yn dweud bod yn rhaid i ysgol neu Goleg Addysg Bellach ‘ddynodi aelod o’i staff’ (‘must designate a member of its staff’) fel Cydlynydd ADY (fy mhwyslais i).

3)  Anghenion Hyfforddiant a Chymwysterau

Yn ychwanegol at yr angen am hyfforddiant ymhlith staff presennol ysgolion, Colegau Addysg Bellach ac Awdurdodau Lleol, bydd angen cynllunio ar gyfer cynyddu’r ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth o faterion ADY ymhlith y gweithlu dysgu cyfan. Bydd angen ystyried newidiadau i Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon (o bosib yn rhan o ddiwygiadau Addysgu Athrawon Yfory/Yr Athro John Furlong), modiwl o fewn y Cwrs Meistr mewn Ymarfer Addysgol, ac elfennau yng nghyrsiau hyfforddiant Cynorthwywyr Dysgu.

4)  Y Gymraeg

Mae UCAC - a nifer o fudiadau eraill sy’n cynrychioli miloedd o unigolion rhyngom ni - wedi codi mater y Gymraeg ym mhob ymgynghoriad ar y mater hwn dros flynyddoedd bellach, ac nid ydym wedi gweld unrhyw welliant o un drafft i’r nesaf, er i’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg nodi yr ‘ystyriwyd pob ymateb a ddaeth i law yn sgil ymgynghoriadau blaenorol.’

Nid yw’r dogfennau yn cydnabod bod problemau systemig o ran sicrhau darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn y Gymraeg. Nid ydynt ychwaith yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cymaint â phosib o’r prosesau yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â dewis iaith plant, pobl ifanc a/neu rieni. Nid ydynt felly yn cynnig unrhyw ffordd o fynd i’r afael â’r anawsterau a’r gwendidau hyn.

Cred UCAC yn gryf y dylai bod hawl gan unrhyw blentyn, person ifanc a'u teuluoedd i dderbyn y ddarpariaeth a'r gwasanaeth priodol drwy eu dewis iaith - yn Gymraeg neu'n Saesneg. Gan fod y Bil yn ymdrin â phlant o’u geni hyd at bobl 25 oed, mae'r ddadl yn gryfach eto mewn perthynas â phlant o deuluoedd Cymraeg eu hiaith nad ydynt eto wedi dod i gysylltiad sylweddol â'r iaith Saesneg, ac sydd i bob pwrpas yn uniaith Gymraeg. Byddai unrhyw asesiad o blentyn uniaith, neu unrhyw ddarpariaeth ar ei gyfer yn gorfod bod yn y Gymraeg i fod yn ystyrlon. Ni chyfeirir at y materion hyn o gwbl yn y Bil nac yn y Cod.

Cawsom siom o’r mwyaf i weld na roddwyd sylw teilwng i faterion ieithyddol o ran sgiliau'r gweithlu yn yr ‘Asesiad o ofynion datblygu’r gweithlu anghenion addysgol arbennig’ a gynhaliwyd yn ddiweddar gan yr Uned Pobl a Gwaith ar ran Llywodraeth Cymru.

Dywed y Memorandwm Esboniadol (paragraff 7.255) bod cynigion y Bil drafft yn ‘cefnogi’ strategaeth ‘Iaith Fyw: Iaith Byw’ a’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, a’u bod yn ‘ategu gofynion Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg’. Ymhellach, ym mharagraff 7.256, dywed ‘Mae ein cynigion yn cefnogi'r camau i sicrhau darpariaeth Gymraeg. Bydd y Cod yn rhoi gwybodaeth bellach ynghylch darpariaeth Gymraeg.’ Nid yw’n glir i ni sut mae’r cynigion yn y Bil Drafft yn ‘cefnogi’ nac yn ‘ategu’ darpariaethau’r Strategaethau, gan nad yw unwaith yn crybwyll y Gymraeg. Ac nid yw’r Cod yn ‘rhoi gwybodaeth bellach ynghylch darpariaeth Gymraeg.’ Mae’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg yn cynnwys rhestr o bwyntiau y ‘mae’n debygol y bydd y Cod drafft yn cynnwys’ mewn perthynas â’r Gymraeg, ond ar y cyfan nid yw’r pwyntiau hyn (y datganiadau o egwyddor) yn ymddangos yn y fersiwn drafft o’r Cod a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar y Bil. I ble y diflannodd y pwyntiau?

Teimlwn mai gwendid yr Asesiad Effaith yw ei fod yn canolbwyntio ar y ffaith y bydd y cynigion deddfwriaethol yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ag ADY yn gyffredinol, gan gynnwys y rheiny sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ond heb fanylu ar natur yr effaith ar y ddarpariaeth Gymraeg yn benodol.

Mae’r cyfeiriad ym mharagraff 14 o’r Cod at Safonau’r Gymraeg yn gyfan gwbl annigonol. Er bod Awdurdodau Lleol yn dod dan gwmpas y Safonau, nid yw’r safonau’n gyson o un Awdurdod i’r llall (h.y. mae hysbysiad cydymffurfio yn pennu pa safonau sy’n

benodol gymwys i bob corff), ac felly ni fyddant yn creu darpariaeth gyson ledled Cymru o ran y gyfundrefn ADY. Yn bwysicach byth, nid yw ysgolion yn ddarostyngedig i’r Safonau – na Cholegau Addysg Bellach ychwaith, hyd y gwyddom ni.

Nid ydym o’r farn felly bod y Llywodraeth yn gwneud digon i osgoi neu leihau’r risg o wahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dyma rai enghreifftiau o fannau y mae UCAC yn galw am sylw penodol i’r Gymraeg ar wyneb y Bil, neu yn y Cod:

·         Pennod 2 y Cod: dylai’r hawl i gael darpariaeth Cymraeg ac ymdrin â’r prosesau drwy gyfrwng y Gymraeg gael ei nodi yn yr adran Egwyddorion; dylai bod cyfeiriadau yn y cyd-destun hwn at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (gofynion ieithyddol), Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, a Iaith Fyw: Iaith Byw (Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru)

·         Pennod 4 y Cod: Cynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc: mae’r bennod hon yn ymdrin â dyletswyddau i annog cyfranogiad plant, eu rhieni a phobl ifanc yn y broses, a chamau ymarferol y dylid eu cymryd i hwyluso hynny. Fodd bynnag, ni sonnir unwaith am bwysigrwydd parchu dewis iaith y plant a’u rhieni, a phobl ifanc yn y broses hon. 

·         Pennod 5 y Cod (mewn perthynas ag Adran 7 y Bil: Cyngor a Gwybodaeth): Teimlwn yn gryf iawn y dylid nodi’n ddiamwys bod disgwyl i’r wybodaeth a chyngor y cyfeirir atynt fod ar gael yn y Gymraeg – boed ar bapur, yn electronaidd neu ar lafar. Dylai’r gofyniad rhwymo nid yn unig yr Awdurdodau Lleol, ond unrhyw ddarparwyr allanol sy’n ymgymryd â’r gwaith ar ran yr Awdurdodau Lleol. Os oes cytundeb lefel gwasanaeth, disgwylir i ddarpariaeth ddwyieithog fod yn amod o’r cytundeb.

·         Pennod 10 y Cod: Cynnwys Gorfodol y Cynlluniau Datblygu Unigol: Nodir ‘the language spoken at home by the child or young person’ fel un o’r darnau o wybodaeth sy’n ofynnol; awgrymwn y dylid addasu hynny i nodi ‘languages’ yn y lluosog, gan mai dyma’r realiti i gyfran helaeth o gartrefi Cymru. Ond yn bwysicach na hynny, nid oes unrhyw sôn yma am (a) cyfrwng iaith addysg y plentyn/person ifanc (b) ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg yr hoffai’r plentyn/person ifanc a’i rieni ymdrin â’r broses ADY. Mae hyn yn fwlch amlwg a phwysig.

·         Pennod 11 y Cod: Canllaw ar gynnwys y Cynlluniau Datblygu Unigol: fel uchod, mae diffyg cyfeiriadau at arferion a dewisiadau ieithyddol yn nodweddi’r bennod hon. Er y sonnir am ‘communication and/or access requirements relevant to the child, young person or their families’, rydym yn gadarn o’r farn y dylid cyfeirio’n benodol at y Gymraeg, ac at yr angen i gymryd i ystyriaeth a pharchu dewisiadau ieithyddol yr unigolion dan sylw.

·         Pennod 14 y Cod: Trafnidiaeth: mi ddylai paragraff 355 nodi fod y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ‘hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.’

·         Pennod 15, paragraff 373 y Cod (mewn perthynas ag Adran 26 y Bil: Dyletswydd i dderbyn plant i sefydliadau a enwir): dylai cyfrwng iaith y ddarpariaeth fod yn un o’r ystyriaethau o ran a yw’r addysg a ddarperir yn addas.

·         Penodau 20 a 21 y Cod: Dylid cyfeirio’n benodol at yr hawl i gael ymwneud â phrosesau datrys anghydfodau ac apeliadau at y Tribiwnlys drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfeiriadau at ‘suitable format’ a ‘plain language’, ond dim un cyfeiriad at gyfrwng iaith y prosesau.

·         Adran 31 y Bil: Diwygio’r gofynion cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru: dylid nodi yn y gofrestr drwy gyfrwng pa ieithoedd y cynigir y ddarpariaeth.

Credwn y dylai’r Bil ei hun gynnwys datganiad diamwys sy’n nodi’r disgwyliadau o ran darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg – o ran y ddarpariaeth addysgol yn ogystal â’r gallu i ymwneud â’r broses gyfan.

Dylai’r Cod fynd i fanylder ynghylch y dyletswyddau, y disgwyliadau a’r ymrwymiadau ar lefel ymarferol.

5)  Sicrhau ansawdd
Beth yw’r trefniadau a phwy sy’n gyfrifol am sicrhau ansawdd y prosesau a’r ddarpariaeth? Ai’r prosesau apêl a’r Tribiwnlys yw’r prif fecanweithiau? Bydd rôl gan Estyn o ran ysgolion, Colegau Addysg Bellach (ac Awdurdodau Lleol?), ond beth am randdeiliaid eraill megis Byrddau Iechyd?

Mae Adran 50 y Bil, a pharagraffau 236-238 o’r Cod yn ymwneud â ‘Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraill.’ Cymrwn mai at ddibenion sicrhau ansawdd y mae’r darpariaethau hyn yn cael eu gwneud. Teimlwn y dylid ymhelaethu ar yr hyn a gynhwysir yn y Cod am y mater hwn o ran y ‘specific circumstances’ pan ganiateir mynediad, ac at ba bwrpasau yn union. Er enghraifft, a yw mynediad o’r fath yn cynnwys yr hawl i arsylwi gwersi?

 

Nodwch isod eich prif bryderon mewn perthynas â’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gadewch i ni wybod a yw’r Bil, yn eich barn chi, yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, neu a oes angen rhagor o waith.

 

Fel y nodwyd uchod mewn cryn fanylder, nid ydym yn gweld sut y bydd y Bil Drafft yn gwella’r sefyllfa parthed darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt uchod?

·         Cyfeiria’r Cod, ym mharagraffau 315-321, at amserlenni ar gyfer llunio Cynlluniau Datblygu Unigol. Holwn pam bod angen tair wythnos yn ychwanegol ar Awdurdod Lleol (10 wythnos) o’i gymharu ag ysgol neu Goleg Addysg Bellach (7 wythnos). Gwyddom fod yr achosion y mae’r Awdurdodau Lleol yn ymdrin â nhw yn debygol o fod yn achosion mwy cymhleth; fodd bynnag, mae tair wythnos ychwanegol yn amser sylweddol, yn enwedig i deuluoedd sy’n aros am gefnogaeth a darpariaeth.

·         Rôl Byrddau Iechyd ac ymddiriedolaethau GIG (Adran 14 (7): pam nad yw’n ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a fynnir gan Dribiwnlys Addysg Cymru ‘oni bai bod y Bwrdd neu’r ymddiriedolaeth yn cytuno i wneud hynny’? Ar ba sail y gallant beidio â chytuno i sicrhau’r ddarpariaeth?